
Chweched Dosbarth
Gair o Groeso...
“Mae ymuno â’r Chweched Dosbarth yn gyfnod newydd a chyffrous yn eich bywydau, ac rwyf wrth fy modd eich bod yn ystyried Bro Dinefwr ar gyfer eich addysg Ôl-16.
Mae ein Chweched Dosbarth cynhwysol yn cynnig amrediad eang o bynciau Safon Uwch i chi. Mae’r cyfuniad o addysgu o safon uchel ac arweiniad personoledig yn arwain at gyfraddau llwyddiant ardderchog. Mae ein staff ymroddgar yn cefnogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial academaidd, gyda llawer yn symud ymlaen i gyflogaeth a phrentisiaethau ac mae nifer sylweddol o fyfyrwyr yn ennill lleoedd ym Mhrifysgolion Rhydychen a Caergrawnt a rhai Grŵp Russell.
Rydym yn annog myfyrwyr i anelu’n uchel a datblygu diddordebau ac agweddau sy’n eu paratoi ar gyfer bywyd prifysgol a byd gwaith. Ochr yn ochr ag ymrwymiad i ganolbwyntio ar astudiaeth academaidd, ceir cyfleoedd toreithiog i gymryd rhan mewn amrediad eang o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys y cyfle i anfon cais at ysgol ofod NASA yn Houston ac Ysgol Haf Harvard.
Bydd ein staff yn eich cefnogi ar eich taith, ac yn meddu ar yr arbenigedd i’ch cyfeirio at y llwybr astudio cywir sy’n addas i chi. Mae’r dull personoledig hwn, y gofal bugeiliol a’r ddarpariaeth academaidd, galwedigaethol ac allgyrsiol gyfoethog yn gwneud Bro Dinefwr yn fan ysbrydoledig i ddysgu.
Rydym wir yn gobeithio y byddwch yn dewis astudio gyda ni ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yn y Chweched Dosbarth ym Mro Dinefwr ym mis Medi 2022 . ”

Trosglwyddo i’r chweched dosbarth
Yma ym Mro Dinefwr rydym yn gwneud ymdrech sylweddol i sicrhau bod gan ddisgyblion blwyddyn 11 y wybodaeth sydd angen arnynt i wneud y penderfyniadau cywir am eu dyfodol. Yn ogystal ȃ’r ddarpariaeth gyrfau, mewn partneriaeth gyda chwmni Gyrfa Cymru, byddwn yn cynnal sesiynau unigol cyson ar hyd y flwyddyn i roi cyngor, gwybodaeth a chyfleoedd i drafod dewisiadau. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu ȃ rhieni lle bod galw.
Isod mae crynodeb o’r gweithgareddau ar hyd y flwyddyn academaidd ar gyfer y disgyblion blwyddyn 11.
Medi - Rhagfyr
- Gwasanaethau gwybodaeth am y cyrsiau a digwyddiadau pontio.
- Holiadur cychwynnol o ofynion astudio’r disgyblion
Ionawr - Mawrth
- Cyhoeddi prosbectws y chweched dosbarth ar-lein a thrwy e-bost i rieni.
- Noson ddewisiadau y chweched dosbarth –gwybodaeth wrth arweinwyr pwnc.
- Sesiynau adrannol boreol.
- Cyfarfodydd unigol gyda rheolwr cynnydd blwyddyn 11 a 12 i drafod dewisiadau
- Gwneud penderfyniad terfynol ar opsiynau yn seiliedig ar y colofnau opsiwn
Awst
- Canlyniadau TGAU
- Cofrestru i’r chweched dosbarth ar ddiwrnod canlyniadau TGAU (yp) yn y Neuadd
Medi
- Cyfle i fireinio dewisiadau am y tro olaf.
- Cychwyn ar y cyrsiau dewisol.

Manteision y 6ed Dosbarth
Rhoi cyfle i fyfyrwyr i gyflawni eu gwir botensial yn academaidd, yn ymarferol ac yn gymdeithasol, ac i gynorthwyo disgyblion i ddatblygu meddyliau bywiog ac ymholgar.
Dysgu myfyrwyr i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn amgylchedd gwbl ddwyieithog.
Bod yn rhan o gymuned sydd yn ofalgar a synhwyrol i ofynion pob unigolyn.
Cydweithio gydag athrawon sy’n adnabyddus i chi, ac sy’n eich adnabod chi a’ch steil dysgu yn dda.
Derbyn cyfleoedd i arwain disgyblion yn yr ysgol Iau mewn digwyddiadau ysgol gyfan.
Cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau allgyrsiol sydd yn eich datblygu fel unigolyn cyflawn, ac sy’n cyfoethogi eich proffil gyrfa.
Derbyn cymorth a chefnogaeth arbenigwyr i benderfynu ar eich camau nesaf boed yn brifysgol neu mynediad i’r byd gwaith.

Gwybodaeth Gyffredinol
Adnoddau Astudio
The sixth form centre has many rooms adapted and dedicated to research, studying, revision, and working independently in free periods.Mae gan y ganolfan chweched dosbarth nifer o ystafelloedd sydd wedi’u haddasu ar gyfer ymchwilio, astudio, adolygu, a gweithio’n annibynnol mewn gwersi digyswllt.
Mae dewis o’r Hwb sydd yn ystafell gyfrifiaduro ar gyfer y chweched yn unig neu’r llyfrgell fel ystafell dawel i weithio’n annibynnol, ac adolygu. Yn ogystal i hyn mae’r hafan, lle mae lle i ymlacio a chymdeithasu yn ogystal a chaffi ar gyfer y myfyrwyr sy’n gwerthu te coffi, a bwydlen eang o ddanteithion ar gyfer bob blas.
Cefnogaeth Ariannol
Bydd yna gyfle i unrhyw aelod o’r ganolfan wneud cais i dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg, (LCA). Bydd y sawl sy’n gymwys yn derbyn:
Cytundeb dysgu i’w arwyddo.
Arian sy’n mynd yn syth i’r cyfrif banc bob pythefnos.
Taliad bonws tair gwaith y flwyddyn.
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gynnal safonau da o gynydd yn y pynciau a lefel o bresenoldeb uchel er mwyn cadw i dderbyn y lwfans.
Cludiant
It is possible to arrange a seat on a school bus through the county transport department. Usually if a pupil has been granted free school transport in years 7-11 then this will be offered in the same way to them in the sixth form.
Monitro Cynnydd
Mae cyswllt gyda’r cartref yn bwysig i ni yma yn yr ysgol, ac o ganlyniad bydd bob myfyriwr yn cael ei fonitro yn agos iawn er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio i’w botensial. Bydd hyn y cynnwys monitro adrannol, unwaith bob tymor, adroddiadau interim, adroddiad llawn blynyddol, a noson rhieni flynyddol. Bydd cymorth ar gael i wella perfformiad y sawl sy’n ei chael hi’n anodd i gyflawni’r pynciau drwy sesiynau mentora unigol yn ôl y galw.
Gwisg
Mae Myfyrwyr y Ganolfan yn cynnal safonau gwisg yr ysgol gan fod yn y esiampl i weddill y disgyblion. Mae hyn yn ddisgwyliad o ddychwelyd i’r chweched dosbarth. Mae’r wisg yn cynnwys: -
Siwmper Chweched dosbarth swyddogol
Trowsus neu sgert ddu syth
Sanau neu teits du plaen
Crys gwyn, a Thei y chweched dosbarth
Esgidiau lleder du plaen

Gofynion Mynediad
Mae Ysgol Bro Dinefwr yn cynnig nifer o gyrsiau Lefel 3 yn y Chweched, ac yn derbyn myfyrwyr gydag amrediad o alluoedd. Dylai darpar ddisgyblion fedru dangos ymagwedd benderfynol tuag at waith yn y gwersi ac yn ystod cyfnodau astudio, a pharodrwydd i wneud y mwyaf o’r cyrsiau a’r cyfleoedd sydd ar gael.
Er mwyn dilyn ein cyrsiau Safon Uwch / Lefel 3, bydd yn fantais bod myfyrwyr wedi ennill 5 gradd C neu uwch ar lefel TGAU. Yn ddelfrydol, bydd hyn yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg. Disgwylir i fyfyrwyr nad ydynt wedi ennill gradd C mewn Iaith Saesneg neu Fathemateg ail sefyll y pwnc ym Mlwyddyn 12.
Disgwylir i fyfyrwyr Blwyddyn 12 ar y cyfan i ddilyn 3 pwnc yn ogystal â chwrs Bagloriaeth Cymru.
Er mwyn astudio rhai pynciau Safon Uwch mae’n well gennym fod myfyrwyr wedi ennill gradd B neu A yn yr arholiadau TGAU.
Rhoddir cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn dewis pynciau sy’n addas i’w gallu.
Mewn amgylchiadau eithriadol, gallai’r ysgol wrthod lle yn y Chweched Dosbarth.