Annwyl Rieni/ Gofalwyr
Yn ystod y cyfnod hwn o amhariadau, rydym yn sylweddoli y bydd cyfathrebu’n bwysig iawn. Gall gwybodaeth a chyngor newid yn eithaf rheolaidd hefyd. Gofynnwn am eich amynedd a dealltwriaeth yn ystod y cyfnod eithriadol hwn.
Prydau Ysgol am Ddim
Bydd teuluoedd sydd â hawl derbyn prydau ysgol am ddim yn medru casglu pecynnau bwyd o’r ysgol ar ddydd Iau, Mawrth 26.
Mae’r cyngor wedi ymuno â Castell Howell a leolir yn Cross Hands a chyflenwyr eraill y gwasanaeth arwylo ysgolion i ddarparu bwyd ar gyfer plant a gofrestrir i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Bydd y pecynnau’n cynnwys brecwastau a chiniawau ar gyfer pum niwrnod.
Gellir eu casglu rhwng 9yb a 12 canol dydd Dydd Llun i ddydd Gwener.
Pan fyddwch yn eu casglu, noder y canlynol os gwelwch yn dda:
Canlyniadau Haf 2020
Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganslo arholiadau 2020, mae Cymwysterau Cymru’n gweithio gyda CBAC i benderfynu ar y ffordd decaf i gyhoeddi graddau ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf a diweddariadau, gweler:
https://www.qualificationswales.org/english/coronavirus---covid-19/frequently-asked-questions/
Yn sgil canslo’r arholiadau ac asesiadau, mae’r Llywodraeth am sicrhau myfyrwyr y byddant yn cael graddau. Maent yn dweud, “ni ddylai unrhyw fyfyriwr deimlo dan bwysau i wneud penderfyniad sydyn na fydd o bosibl o’r budd pennaf i chi yn y pen draw”.
“Mae’n bwysig bod gennych yr holl wybodaeth sydd ar gael i chi wrth benderfynu ar gynigion a deall sut y bydd dyfarnu cymwysterau’n gweithio yr haf hwn. Er mwyn rhoi mwy o amser i chi benderfynu, rydym wedi penderfynu ymestyn dyddiad cau penderfyniad mis Mai (dyddiad olaf gwneud eich dewis cadarn ac yswiriant) o ddwy wythnos. Byddwn yn cadarnhau eich dyddiad cau newydd i wneud penderfyniad yr wythnos hon.
Pan fyddwch yn derbyn eich canlyniadau a bydd prifysgolion a cholegau’n gwneud eu penderfyniadau, bydd ein gwasanaeth ‘Clearing’ yn dal i fod ar gael i chi, fel y mae i ddegau o filoedd o ymgeiswyr bob blwyddyn.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am coronafeirws (COVID-19) ar ucas.com
Mentora Iechyd a Lles o Bell
Yn ystod y cyfnod hwn o fod ar gau, rhoddwyd ar waith system fentora i gefnogi iechyd a lles eich mab/merch. Bob wythnos byddant yn cael e-bost gan fentor staff fydd yn ‘gwirio’ i weld sut mae eich plentyn.
Bydd mentor staff gan bob disgybl yn yr ysgol gan gynnwys blwyddyn 11 a 13. Mae’n bwysig ein bod yn cynnal cyswllt gyda chi a’ch plentyn. Byddwn yn gwneud ein gorau i gefnogi pawb yr adeg hon.
Pe bai eich plentyn am fynediad i’r canlynol:
E-bostiwch Mrs Tiddy os gwelwch yn dda
Hefyd, ceir cysylltiadau ar wefan yr ysgol ar gyfer gwasanaethau ar-lein gwahanol.
Fel rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid, cofiwch gysylltu â ni os oes angen.
Blwyddyn 7 Mrs R Davies Rachel.Davies@brodinefwr.org.uk
Blwyddyn 8 Mr G Taylor Gareth.Taylor@brodinefwr.org.uk
Blwyddyn 9 Mr D Howells Dewi.Howells@brodinefwr.org.uk
Blwyddyn 10 Mr S Thomas Stuart.Thomas@brodinefwr.org.uk
Blwyddyn 11 Mr S Crawford Steven.Crawford@brodinefwr.org.uk
Chweched Dosbarth Mr R Rees Rhodri.Rees@brodinefwr.org.uk
Bydd y staff i gyd yn ymateb yn ystod oriau gwaith.
Gwyliau’r Ysgol
Hoffwn eich hatgoffa’n garedig bod pob disgybl yn swyddogol ar wyliau hyd 20/04/2020, yn dilyn y Datganiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ar gau ysgolion yng Nghymru ar 18/03/2020, pan gyhoeddwyd ei bod yn dod â gwyliau’r Pasg yng Nghymru yn eu blaen.
Mae’n anhebygol iawn y bydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar 20/03/2020.
Adnoddau
Rydym wedi ymrwymo i gydweithio er mwyn cynnal cymaint o ddilyiant addysg ag sy’n bosibl. Serch hynny, bydd pethau’n wahanol.
Noder y byddwn, am y bythefnos nesaf, yn canolbwyntio ar ddarparu prydau bwyd i’r disgyblion hynny sydd â hawl i gael Prydau Ysgol am Ddim a chefnogi ein dysgwyr mwyaf bregus a’u teuluoedd.
Nid yw ysgolion yn medru trosi ar unwaith i wasanaeth ‘rhithwir’ neu o bell. Gyda thechnoleg gallwn wneud llawer, ond mae lefelau’r isadeiledd, sgil a mynediad sydd gan staff, myfyrwyr a rhieni’n amrywio’n sylweddol.
Yn ystod y cyfnod hwn o fod ar gau, cyfeirir ein staff addysgu i weithio o bell cymaint â phosibl, ond bydd llawer ohonynt yn dioddef effaith y sefyllfa gyfredol eu hunain, naill ai trwy salwch neu hunan-ynysu.
Mae’r staff addysgu’n paratoi adnoddau y gall disgyblion gael mynediad iddynt o 20/04/2020 ac yn archwilio sut y medrant sicrhau dilyniant dysgu i’r disgyblion i gyd. Ond, rydym yn ymdopi â heriau digynsail a gofynnaf yn barchus i rieni beidio â monitro na rhoi sylwadau ar ansawdd y ddarpariaeth a geir.
Cysylltu
Nid oes gan bob un o’n staff cefnogi a gweinyddol fynediad i gyfarpar fyddai’n eu galluogi i weithio o bell a bydd hyn yn effeithio ar ein gallu i gysylltu’n effeithiol gyda chi.
Bydd gwefan yr ysgol yn gyfrwng pwysig iawn a bydd yn cael ei ddiweddaru gyda gwybodaeth mor aml â phosibl https://brodinefwr.org.uk
Yn anffodus, nu fyddwn yn medru ateb cwestiynau dros y ffôn. Os oes rhaid i chi gysylltu â ni, defnyddiwch y cyfeiriadau e-bost sydd yn y llythyr hwn neu’r rheiny a nodwyd ar Ganllaw Cymorth Disgybl/Rhiant sydd ar gael ar y wefan.
Digwyddiadau
Yn unol â chyngor y Llywodraeth, mae pob digwyddiad ysgol wedi ei ganslo am y dyfodol rhagweladwy.
Gwybodaeth Cyswllt
Fel arfer, cofiwch gysylltu â fi a gwnaf fy ngorau glas i roi cyngor neu gymorth.
Ionwen.Spowage@brodinefwr.org.uk
Diolch unwaith eto i chi am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn. Gofalwch am eich hunain a’ch teuluoedd.
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.